Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 19 Mawrth 2019
Amser:
08.30 -
08.44
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Ann Jones AC, Dirprwy Llywydd, (Cadeirydd) Rebecca Evans AC Darren Millar AC Rhun ap Iorwerth AC Neil Hamilton AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.
Dydd Mawrth
· Yn dilyn yr ymosodiadau yn Christchurch ac Utrecht, bydd y Dirprwy Lywydd yn dweud ychydig o eiriau ar ddechrau'r Cyfarfod Llawn heddiw a bydd yn gwahodd yr Aelodau i ymuno â hi mewn munud o dawelwch.
· Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar gyfer eitemau heblaw'r Cyfnod 3 ar ôl yr eitem olaf o fusnes.
· Bydd egwyl o 10 munud cyn dechrau trafodion Cyfnod 3.
Dydd Mercher
· Cynhelir yr holl bleidleisiau cyn y Ddadl Fer.
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 1 Mai 2019 –
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Perthynas Llywodraeth Cymru â Pinewood (60 munud)
· Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: Perthynas Cymru ag Ewrop a’r byd yn y dyfodol (60 munud)
·
Amser a
neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
Dadl Aelod - dewis cynnig ar gyfer dadl
· Dewisodd y Pwyllgor Busnes y cynnig a ganlyn ar gyfer dadl ar 27 Mawrth:
NNDM6990
Andrew RT Davies
NNDM6990
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) pwysigrwydd rygbi i bobl Cymru, y manteision economaidd sy'n gysylltiedig â'r gêm, a'i lle arbennig yng ngwead cymunedau ledled ein cenedl;
b) yr heriau ariannol a strwythurol sy'n wynebu rygbi yng Nghymru ar hyn o bryd;
c) goblygiadau posibl 'Project Reset' Undeb Rygbi Cymru ar rygbi proffesiynol a'r strwythur rhanbarthol yng Nghymru, ac ar y gwasanaethau lleol a chymunedol ychwanegol a ddarperir ar hyn o bryd gan y rhanbarthau; a
d) y pryderon cryf a fynegwyd gan gefnogwyr ynghylch y posibilrwydd o uno rhanbarthau'r Gweilch a'r Sgarlets.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag Undeb Rygbi Cymru a phartneriaid rhanbarthol/clwb i ddiogelu rygbi yng Nghymru a llunio model cynaliadwy tymor hir ar gyfer y gêm ar lefel ranbarthol ac ar lawr gwlad.
Cefnogwyr:
Huw Irranca-Davies
Bethan Sayed
Mohammad Asghar
Jayne Bryant
Hefin David
Suzy Davies
Janet Finch-Saunders
Mike Hedges
Dai Lloyd
Lynne Neagle
David Rees
Nododd y Rheolwyr Busnes y bwriedir i'r ddadl yn y Cyfarfod Llawn gael ei chynnal ar 30 Ebrill am 15 munud, a bod hyn yn caniatáu ar gyfer 3 wythnos eistedd o waith craffu gan bwyllgor yn hytrach na'r 6 wythnos arferol, oherwydd amserlenni Senedd y DU.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r memorandwm at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig gyda dyddiad cau ar gyfer adrodd ar 25 Ebrill.
Cadarnhaodd y Rheolwyr Busnes eu penderfyniad mewn egwyddor ar 5 Mawrth i gyfeirio'r Bil at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyfer ystyriaeth Cyfnod 1 gyda dyddiad cau ar gyfer adrodd yn ôl ar 19 Gorffennaf. Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar ddyddiad cau o 8 Tachwedd 2019 ar gyfer trafodion pwyllgor Cyfnod 2.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i'r cais.
Y Pwyllgor Deisebau
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i wahodd UKIP i lenwi'r swydd wag ar y Pwyllgor Deisebau. Dywedodd Neil Hamilton fod angen i Grŵp UKIP gael trafodaeth gyffredinol am ddyranniad eu lleoedd ar pwyllgorau, cyn enwebu aelod i lenwi'r lle gwag ar y Pwyllgor Deisebau.
Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyflwyno cynnig i ethol Janet Finch-Saunders yn aelod o'r Pwyllgor Craffu Waith y Prif Weinidog yn lle David Rowlands. Bydd y cynnig yn cael ei ychwanegu at agenda Cyfarfod Llawn yfory.
Agenda'r Wythnos Nesaf
Dywedodd y Dirprwy Lywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd papurau ar Goladu Canllawiau ac ar Reolau Sefydlog ar gyfer Biliau Cydgrynhoi ar yr agenda ar gyfer yr wythnos nesaf.